P 20

Ymchwiliad i’r Adolygiad Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Inquiry into the Priorities for the Health, Social Care and Sport Committee

Ymateb gan: Stonewall Cymru

Response from: Stonewall Cymru


 

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Ymateb Stonewall Cymru

Cefndir

Stonewall Cymru yw’r elusen Cymru gyfan dros gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT). Sefydlwyd Stonewall Cymru yn 2003, ac rydyn ni’n gweithio â busnesau, sefydliadau cyhoeddus, ysgolion, Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac ystod eang o bartneriaid mewn cymunedau ar draws Cymru i wella profiadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws.

 

Trosolwg

 i.       Mae Stonewall Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn ar flaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

ii.      Cyn etholiadau y Pumed Cynulliad, cyhoeddasom Maniffesto Stonewall Cymru 2016: Cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yng Nghymru[1]. Mae’r maniffesto yn amlinellu blaenoriaethau ar gyfer cydraddoldeb ar draws meysydd allweddol megis iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, a chydraddoldeb yng Nghymru ac yn rhyngwladol.  Seiliwyd yr argymhellion ar ein profiad o weithio gyda rhanddeiliaid ar draws Cymru ac arolwg o flaenoriaethau ein cefnogwyr ar gyfer cydraddoldeb LHDT.

iii.      Credwn fod awgrymiadau’r Pwyllgor am ei raglen waith yn cynnwys nifer o syniadau da ac yn mynd i’r afael â nifer o faterion o bwys. Amlinellwn syniadau ychwanegol am flaenoriaethau isod.  

 

Rhaglen waith y Pwyllgor

iv.      Gofal iechyd i bobl draws yng Nghymru

Mae pobl draws yn adrodd amrywiaeth o brofiadau negyddol gyda Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (GIG Cymru), gan gynnwys diffyg dealltwriaeth difrifol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a llwybrau gofal caeth sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth gyfyng o hunaniaeth rhywedd.

Mae pobl draws yng Nghymru sy’n cael diagnosis o ddysfforia rhywedd yn gorfod teithio i Lundain i gael gofal angenrheidiol, ac yn wynebu teithiau hirion, amseroedd aros sy’n aml yn fwy na’r terfyn statudol, costau uchel ac anawsterau o ran dod â theulu a chyfeillion cefnogol i gadw cwmni iddynt. Mae hyn i gyd yn gallu achosi straen ychwanegol yn ystod proses sy’n gallu bod yn anodd yn aml iawn. Mae darparu gwasanaethau hunaniaeth rhywedd arbenigol, hygyrch o ansawdd yn agos at gymunedau Cymru yn lleihau’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â dysfforia rhywedd, gan gynnwys problemau iechyd meddwl a hunanladdiad.

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar hyn o bryd yn ystyried sut i newid y llwybr gofal dysfforia rhywedd presennol. Gallai’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon archwilio’r broses hon, mesur cynnydd ac ystyried yn fwy cyffredinol i ba raddau mae GIG Cymru yn darparu’r gwasanaethau gofal iechyd effeithiol y mae gan bobl draws yr hawl i’w ddisgwyl.

 

v.       Rhoi gwaed yng Nghymru

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Gwaed, Meinwe ac Organau (SaBTO) ar hyn o bryd yn adolygu’r meini prawf ar gyfer rhoi gwaed, ac mae’r Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Roi Gwaed yn San Steffan hefyd yn archwilio’r achos am newid y meini prawf presennol, gan gynnwys y gwaharddiad 12 mis ar ddynion sy’n cael rhyw gyda dynion yn rhoi gwaed. Gall y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon gynnal ymchwiliad i gydfynd â’r gwaith hwn yng Nghymru, gan ystyried yr achos dros symud tuag at system yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru o asesu risg unigol rhoddwyr gwaed.  

 

vi.      Iechyd meddwl ac anghydraddoldeb 

Mae yna dystiolaeth gref bod pobl o grwpiau lleiafrifol neu’r rheiny sy’n wynebu gwahaniaethu â risg sylweddol uwch o brofi problemau iechyd meddwl na’r boblogaeth yn gyffredinol. Mae hyn yn wir am bobl ddu a lleiafrifoedd ethnig, menywod, pobl anabl a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws. Gall y pwyllgor archwilio’r cysylltiad rhwng anghydraddoldebau cymdeithasol a phroblemau iechyd meddwl, ac i ba raddau mae gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn diwallu anghenion grwpiau amrywiol.

 

vii.      Iechyd rhywiol yng Nghymru

Gall y Pwyllgor archwilio iechyd rhywiol yng Nghymru a llwyddiant ymdrechion i atal lledaeniad heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys arolygiaeth o ddarpariaeth gwasanaethau iechyd rhywiol cyffredinol ac arbenigol ar draws Cymru. Dylid hefyd ganolbwyntio ar waith ataliol ym maes iechyd rhywiol a’r achos dros bolisïau ataliol megis addysg rhyw a chydberthynas ystyrlon ym mhob ysgol, darparu triniaeth Proffylacsis Cyn-Gysylltiol (PrEP) drwy GIG Cymru ar gyfer y rhai sy’n wynebu risg uchel o ddal HIV ac ymestyn y rhaglen frechu yn erbyn Feirws Papiloma Dynol (HPV) i gynnwys pob dyn ifanc er mwyn diogelu’r boblogaeth gyfan rhag HPV.

 

viii.       Gwahaniaethu yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Canfu ymchwil Stonewall Cymru, Agweddau Afiach (2015)[2] bod 36 y cant o staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru heb dderbyn unrhyw hyfforddiant ar gydraddoldeb ac amrywiaeth gan eu cyflogwr. Mae’r effaith yn glir: canfu’r ymchwil hefyd dystiolaeth o lefelau uchel o wahaniaethu gan staff iechyd a gofal cymdeithasol yn erbyn pobl LHDT, a diffyg dealltwriaeth difrifol o’u hanghenion fel cleifion. Gall y Pwyllgor archwilio y gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd o fewn GIG Cymru i daclo gwahaniaethu o bob math, yn arbennig i ba raddau mae rhaglenni hyfforddiant cychwynnol a datblygiad proffesiynol parhaus yn paratoi staff i ddiwallu anghenion gofal cymunedau amrywiol.

 

Gwybodaeth bellach

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:

xxxx

Rheolwr Ymgyrchoedd, Polisi ac Ymchwil

Stonewall Cymru

xxxx

xxxx



[1] http://www.stonewallcymru.org.uk/cy/ein-gwaith/ymgyrchoedd/etholiad-2016

[2] http://www.stonewallcymru.org.uk/cy/ein-gwaith/ymchwil/agweddau-afiach